YNYSU WALIAU SOLIDMae’n bosib ynysu tai hŷn sydd â waliau solid hefyd, er nad oes ceudod, er mwyn lleihau faint o wres sy’n cael ei golli a gostwng biliau tanwydd. Mae gan Paynes Insulation brofiad helaeth, wedi bod yn rhan o brosiectau mawr ym maes tai a thrin adeiladau diwydiannol ers 38 o flynyddoedd. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd i ddylunio systemau leinin mewnol “wedi’u teilwra” ar gyfer eu rhoi ar du mewn waliau allanol y tai. Yna bydd ein crefftwyr ein hunain yn gosod y system – yn ffitwyr, plastrwyr a seiri. Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib a chadw’r gost i lawr, gallwn drin gwahanol ystafelloedd fesul un, yn aml gan wneud hynny ar yr un pryd â gwaith ailaddurno rydych eisoes wedi’i drefnu. |

